Ymgyrch Dinas Llên Campaign
Yn 2025 bydd Aberystwyth a Cheredigion yn cyflwyno cais i ddod yn un o Ddinasoedd Llên UNESCO.
Mae statws Dinas Llên yn wobr o fri a roddir gan UNESCO i ddathlu cyfraniad ardal i lenyddiaeth – heddiw, ddoe ac yfory. Ar hyn o bryd mae 53 o Ddinasoedd Llên ledled y byd. Hyd heddiw, nid oes yr un ohonynt yng Nghymru.
Ac er nad yw Aberystwyth yn ddinas fel y cyfryw, mae ei statws fel tref prifysgol a chartref i sefydliadau cenedlaethol yn ei gwneud hi’n gymwys.
Ein Hachos
Ein Pobl
Yn ogystal â harddwch ein hamgylchfyd naturiol, mae gan Geredigion dreftadaeth lenyddol drawiadol. Mae pobl y bröydd hyn wedi gadael ôl eu straeon ar gerrig yn y 5ed a’r 6ed ganrif, ar femrwn yn yr Oesoedd Canol, ar dudalennau print am ganrifoedd ac mewn ffurfiau digidol ers degawdau. O genhedlaeth i genhedlaeth, maen nhw wedi traddodi eu cerddi a’u chwedlau am golli ac ennill, am adfyd ac antur. Gall Aberystwyth, fel un rhan yn unig o Geredigion, hawlio cysylltiad â 300 llenor; a dyma’r lle cyntaf yng Nghymru i gyflogi Bardd y Dref. Drwy ein straeon, dramâu a cherddi, drwy iaith a thrwy ieithoedd, ry’n ni’n cyrraedd y byd mawr, a’r byd mawr, yn ei dro, yn ein cyrraedd ni.
Ein Hachos
Ein Sefydliadau
Mae Ceredigion yn gartref i sefydliadau llenyddol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym ni ddiwydiant cyhoeddi bywiog sy’n deillio yn ôl i 1718, ac rydym ni wedi cynnal eisteddfodau cenedlaethol a gwyliau llên yma oddi ar o leiaf y 12fed Ganrif.
Ein Hachos
Ein Hagwedd ‘Llenyddiaeth i Bawb’
Ar lawr gwlad, mae gennym ni siopau llyfrau annibynnol arbennig, gwasanaeth llyfrgell sy’n bysio llyfrau i’r cymdogaethau mwyaf gwledig, cylchoedd darllen ac eisteddfodau lleol llewyrchus, a thraddodiad o dalyrna a chreu cerddi sy'n ddi-dor dros fil o flynyddoedd.
Mae llenyddiaeth o dan ein traed wrth inni gerdded y prom yn Aber. Mae’n addurno’r cei yn Aberteifi a’r llwybr drwy’r coed yn Llandre. Mae’n harddu muriau’n pentrefi. Mae’n rhan annatod o fywyd beunyddiol pobl o bob oed a chefndir.
I GYDNABOD HYN OLL, RYDYM YN CEISIO STATWS DINAS LLÊN UNESCO
Beth fyddai hynny’n ei olygu i Aberystwyth a Cheredigion?
Gwell ymdeimlad o berthyn, balchder bro a lles ymhlith y trigolion
Mwy o gyfleoedd dysgu
Mwy o gynlluniau blaengar i leddfu unigedd
Sbardun i dyfu’r diwydiannau creadigol ymhellach a dod â manteision i fusnesau lleol
Proffil uwch a all ddenu mwy o ymwelwyr a myfyrwyr
Mae’r cais hwn i ddod yn Ddinas Llên yn cynnig cyfle i sicrhau y bydd llenyddiaeth yn parhau i fod yn ynni nerthol sy’n creu cymuned gynaliadwy, fywiog, ddwyieithog a chynhwysol yma ar ochr orllewinol Cymru.