Digwyddiadau
Does dim digwyddiadau ar hyn o bryd.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diwedddaraf @AberystwythDinas Llen
Lleisiau a Gwelededd: straeon menywod ar draws amser
Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn cloi’r cyfres o weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod Chwefror a Mawrth 2026 fel rhan o brosiect Er Mwyn Dyn. Yn ystod y noson, bydd yna recordiad byw dan arweiniad Hannah Loy, cyflwynydd yr ‘Aberystwyth Book Club’, a fydd yn trafod cyfrol Mari Ellis Dunning, Witsh. Bydd crïwyr tref Er Mwyn Dyn hefyd yn cyhoeddi cerdd a ysgrifennwyd gan Mari Ellis Dunning mewn ymateb i’r cam-drin ar-lein a brofwyd gan Athika Ahmed, llysgennad iechyd menywod ifanc yng Nghymru. Bydd y gerdd yn cynnwys llinellau o farddoniaeth a gasglwyd gan feirdd ledled Cymru.
Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb ond mae angen cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/voices-and-visibility-womens-stories-across-time-tickets-1985288715992
Darllen y dirwedd: Arddangosfa a Darlleniadau
Digwyddiad i ddathlu’r gwaith creadigol a wnaed gan fynychwyr gweithdai, Symposiwm y myfyrywyr doethur a chyfranwyr eraill fel rhan o’r prosiect cydweithredol yma rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders. Bydd arddangosfa pop-yp o’r gwaith rhwng 4yp a 6yh, gyda darlleniadau gan y sawl sydd wedi cyfrannu at neu fynychu digwyddiadau Darllen y Dirwedd: Spineless Wonders rhwng 5yp a 6yh. Mae croeso i bawb ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Spineless Wonders: gweithdy rhwymo llyfrau
Cyfle i ddysgu hanfodion strwythurau celf llyfrau, gan ddilyn templedi i greu detholiad o arteffactau wedi’u plygu. Gan ystyried y llyfr fel cynhwysydd athraidd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio dulliau megis plygu, torri, rhwygo, coladu, olrhain a dileu, i greu dilyniannau sy’n cael eu cadw o fewn ei ffurf. Caiff y gweithdy ei arwain trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan yr artist gweledol Catrin Menai a Harriet Fuller sy’n arbenigo ar argraffu. Darperir yr holl ddeunyddiau ond fe’ch gwahoddir i ddod ag unrhyw bapurau, darnau, nodiadau neu elfennau rydych chi wedi’u canfod ac yn teimlo y dylid eu cynnwys yn y broses. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Llinellau yn y dirwedd: Ymateb creadigol i Aberystwyth
Gall y dirwedd siarad â ni… os ydyn ni’n fodlon gwrando. Bydd y gweithdy tywys hwn yn dechrau gyda thaith gerdded hamddenol lle gaiff y sawl sy’n cymryd rhan eu hannog i arsylwi ar ac amsugno’r amgylchedd o’u cwmpas. Gyda’n gilydd byddwn yn clywed y drudwy yn clicio ac yn chwibanu, yn arogli ewyn y môr neu’n sylwi ar arlliw adfeilion y castell. Byddwn yn rhyngweithio â’r dirwedd trwy iaith a chelf, gan feddwl am yr hyn y gall ein hamgylchedd ei ddweud wrthym a sut y gallwn ymateb. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan gyfle i ysgrifennu a darlunio’r dirwedd a throi’r cyffredin yn rhywbeth rhyfeddol. Arweinir y gweithdy gan yr awdur Mari Ellis Dunning a’r artist Elin Crowley fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Aros am Heddwch
Cydweithrediad rhwng Big Wave / Ton Fawr a Chanolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth yw’r prosiect hwn sy’n dod â gwaith celf cyhoeddus i strydoedd y dre. Fel rhan o dymor Heddwch a Chariad ehangach, bydd ‘Aros am Heddwch’ yn gosod gwaith celf ar thema Heddwch Cadarnhaol mewn tair arhosfan bws yn Aberystwyth – dwy ym Mhenparcau ac un ar riw Penglais ger Ysbyty Bronglais. Y nod yw cynnig eiliad o fyfyrdod i bobl yn ystod eu teithiau bob dydd. Bydd y gwaith yn ymddangos ar yr arosfannau bws yn ystod wythnos olaf mis Mawrth.
Darllen y dirwedd: Symposiwm
Symposiwm wyneb-yn-wyneb dan ofal Miranda Whall – artist rhyngddisgyblaethol, academydd, a hyfforddwr/mentor – a myfyrwyr doethur Ysgol Gelf Aberystwyth, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol. Bydd y siaradwyr gwadd fydd Ben Porter ac Elinor Gwynn, y cadeiryddion Zoe Quick a Heledd Wyn Hardy, a’r myfyrwyr doethur yn dod ynghyd i archwilio ffyrdd newydd o fod, canfod, cynrychioli ac ailddychmygu tirwedd Cymru. Mae’r awr gyntaf yn cynnwys y symposiwm ar-lein uchod. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, ewch i’n tudalen Eventbrite.
Darllen y Dirwedd: Symposiwn Ar-lein
Gan fynd i’r afael â thema Darllen y Dirwedd, bydd y digwyddiad Zoom ar-lein hwn yn dwyn ynghyd gasgliadau arbennig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Coleg Prifysgol Llundain (UCL); Llyfrgell Senate House, Prifysgol Llundain (SHL); a Sefydliad Ymchwil a Llyfrgell John Rylands, Prifysgol Manceinion. Gyda chyflwyniadau gan Timothy Cutts a Miidong P. Daloeng o’r Llyfrgell Genedlaethol; Liz Lawes, UCL; Tansy Barton a Leila Kassir, SHL, a Tabitha Tuckett, Prifysgol Manceinion, byddwn yn rhannu cyhoeddiadau gweisg bach ac effemera eraill sy’n ymwneud â Darllen y Dirwedd, sy’n un o brif themâu Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion, rhan o rwydwaith UNESCO o ddinasoedd creadigol. Dan ofal Ysgol Gelf y Slade.
Dyma ran gyntaf Symposiwm wyneb-yn-wyneb a gynhelir yn Ysgol Gelf Aberystwyth rhwng 2yp a 6yh – manylion isod.
Gweithdy Tirio
Sesiwn i ddysgwyr Cymraeg a phobl sydd â diddordeb mewn iaith i ddod i archwilio’r berthynas rhwng creu celf am neu yn y dirwedd, ac iaith, a beth all y gydberthynas hon ddysgu i ni am natur, y ffordd yr ydym yn ymwneud â’r byd naturiol fel pobl, a phwysigrwydd enwau i ddeall ein cynefin. Caiff y gweithgareddau amrywiol eu harwain gan Esyllt Lewis, awdur preswyl Dinas Llên yng Nghanolfan y Celfyddydau, a’r artist Brian Swaddling. Dewch ag esgidiau cerdded a menig… a siaced! Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch nawr i fod yn rhan o sesiwn creadigol, cymdeithasol a hamddenol.
Cadw lle am ddim: https://aberystwythartscentre.co.uk/cy/event/gweithdy-tirio-workshop-2/
Spineless Wonders: gweithdy rhwymo llyfrau
Cyfle i ddysgu hanfodion strwythurau celf llyfrau, gan ddilyn templedi i greu detholiad o arteffactau wedi’u plygu. Gan ystyried y llyfr fel cynhwysydd athraidd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio dulliau megis plygu, torri, rhwygo, coladu, olrhain a dileu, i greu dilyniannau sy’n cael eu cadw o fewn ei ffurf. Caiff y gweithdy ei arwain trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan yr artist gweledol Catrin Menai a Harriet Fuller sy’n arbenigo ar argraffu. Darperir yr holl ddeunyddiau ond fe’ch gwahoddir i ddod ag unrhyw bapurau, darnau, nodiadau neu elfennau rydych chi wedi’u canfod ac yn teimlo y dylid eu cynnwys yn y broses. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Llinellau yn y dirwedd: Ymateb creadigol i Aberystwyth
Gall y dirwedd siarad â ni… os ydyn ni’n fodlon gwrando. Bydd y gweithdy tywys hwn yn dechrau gyda thaith gerdded hamddenol lle gaiff y sawl sy’n cymryd rhan eu hannog i arsylwi ar ac amsugno’r amgylchedd o’u cwmpas. Gyda’n gilydd byddwn yn clywed y drudwy yn clicio ac yn chwibanu, yn arogli ewyn y môr neu’n sylwi ar arlliw adfeilion y castell. Byddwn yn rhyngweithio â’r dirwedd trwy iaith a chelf, gan feddwl am yr hyn y gall ein hamgylchedd ei ddweud wrthym a sut y gallwn ymateb. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan gyfle i ysgrifennu a darlunio’r dirwedd a throi’r cyffredin yn rhywbeth rhyfeddol, a byddan nhw’n gadael gyda llyfryn bach yn llawn eu gwaith creadigol nhw. Arweinir y gweithdy gan yr awdur Mari Ellis Dunning a’r artist Emily Wilkinson fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Aros am Heddwch: Castell Aberystwyth
Am dair noson, o fachlud haul tan yn hwyr, bydd gwaith gan chwe artist lleol ar thema heddwch cadarnhaol yn cael ei daflunio ar dŵr Castell Aberystwyth. Mae’r tafluniadau yn dwyn ynghyd chwedlau, llên gwerin yr arfordir, iaith a golygfeydd bob dydd, gan greu collage symudol o ddelweddau sy’n fyfyrdod ar heddwch, lle a’r cymunedau sy’n llunio’r arfordir hwn. Mae gwahaoddiad i bawb i grwydro draw ac, ar gychwyn tymor y Gwanwyn, ymuno â ni i edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Digwyddiad ar y cyd yw hwn rhwng Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Big Wave/ Ton Fawr, fel rhan o’u tymor Heddwch a Chariad.
Mwy na dim ond llinell ar y map: arfordir Aberystwyth
Ymunwch â sgwennwyr, artistiaid a daearyddwyr ar deithiau cerdded a gweithdai creadigol er mwyn archwilio tirweddau newidiol afonydd ac arfordir Aberystwyth a dechrau taith sgwennu newydd. Arweinir y gweithgaredd gan Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Gan gychwyn am 12:30 ar ddydd Sul 15 Mawrth ger ‘The Hut’ ar draeth y de, bydd y grŵp yn ceredded ar hyd y prom a’r arfordir cyn dychwelyd i Ganolfan Arad Goch am 17:30 ar gyfer lluniaeth ac yna gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio hmg@aber.ac.uk cyn 8 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion diet.
Mwy na dim ond llinell ar y map: Afon Rheidol
Ymunwch â sgwennwyr, artistiaid a daearyddwyr ar deithiau cerdded a gweithdai creadigol er mwyn archwilio tirweddau newidiol afonydd ac arfordir Aberystwyth a dechrau taith sgwennu newydd. Arweinir y gweithgaredd gan Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Gan gychwyn am 12:30 ger ‘The Hut’ ar draeth y de, bydd y grŵp yn ceredded ar hyd glannau afon Rheidol cyn dychwelyd i Ganolfan Arad Goch am 17:30 ar gyfer lluniaeth ac yna gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio hmg@aber.ac.uk cyn 8 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion diet.
Gareth Bonello / The Gentle Good, Dairena Ní Chinnéide, Mererid Hopwood
Bydd Gareth Bonello/The Gentle Good yn sgwrsio gyda’r Athro Mererid Hopwood am ei albwm Elan, ac yn perfformio’r caneuon a ysbrydolwyd gan dirwedd a hanes Cwm Elan. Bydd y bardd o Iwerddon Dairena Ní Chinnéide hefyd yn perfformio ei cherddi, a chawn glywed cyfieithiadau Cymraeg Mererid o’i gwaith. Darperir cyfieithu ar y pryd.
Mae mynediad am ddim ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig felly e-bostiwch Arad Goch i gadw lle: post@aradgoch.org
Heolydd Heddwch
Gweithdy a sesiynau dilynol dan ofal yr Athro Mererid Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth i roi cychwyn ar brosiect Heolydd Heddwch. Y nod yw datblygu taith dywys lenyddol yn mapio’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a heddwch cadarnhaol yn ardal Aberystwyth a sir Ceredigion.
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd awduron, beirdd, ymchwilwyr, haneswyr ac arbenigwyr ar fapio creadigol, a bydd yn rhoi sylw i unigolion megis Gwenallt, T.E.Nicholas, T.H.Parry-Williams, Waldo Williams, Henry Richard ac eraill.