![](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/ddb8f239-7bf1-4feb-8f8e-248e35950cf5/iStock-185853706_crop.jpg)
Ymgyrch Dinas Llên Campaign
Yn 2025 bydd Aberystwyth a Cheredigion yn cyflwyno cais i ddod yn un o Ddinasoedd Llên UNESCO.
Mae statws Dinas Llên yn wobr o fri a roddir gan UNESCO i ddathlu cyfraniad ardal i lenyddiaeth – heddiw, ddoe ac yfory. Ar hyn o bryd mae 53 o Ddinasoedd Llên ledled y byd. Hyd heddiw, nid oes yr un ohonynt yng Nghymru.
Ac er nad yw Aberystwyth yn ddinas fel y cyfryw, mae ei statws fel tref prifysgol a chartref i sefydliadau cenedlaethol yn ei gwneud hi’n gymwys.
Ein Hachos
Ein Pobl
Yn ogystal â harddwch ein hamgylchfyd naturiol, mae gan Geredigion dreftadaeth lenyddol drawiadol. Mae pobl y bröydd hyn wedi gadael ôl eu straeon ar gerrig yn y 5ed a’r 6ed ganrif, ar femrwn yn yr Oesoedd Canol, ar dudalennau print am ganrifoedd ac mewn ffurfiau digidol ers degawdau. O genhedlaeth i genhedlaeth, maen nhw wedi traddodi eu cerddi a’u chwedlau am golli ac ennill, am adfyd ac antur. Gall Aberystwyth, fel un rhan yn unig o Geredigion, hawlio cysylltiad â 300 llenor; a dyma’r lle cyntaf yng Nghymru i gyflogi Bardd y Dref. Drwy ein straeon, dramâu a cherddi, drwy iaith a thrwy ieithoedd, ry’n ni’n cyrraedd y byd mawr, a’r byd mawr, yn ei dro, yn ein cyrraedd ni.
Ein Hachos
Ein Sefydliadau
Mae Ceredigion yn gartref i sefydliadau llenyddol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gennym ni ddiwydiant cyhoeddi bywiog sy’n deillio yn ôl i 1718, ac rydym ni wedi cynnal eisteddfodau cenedlaethol a gwyliau llên yma oddi ar o leiaf y 12fed Ganrif.
Ein Hachos
Ein Hagwedd ‘Llenyddiaeth i Bawb’
Ar lawr gwlad, mae gennym ni siopau llyfrau annibynnol arbennig, gwasanaeth llyfrgell sy’n bysio llyfrau i’r cymdogaethau mwyaf gwledig, cylchoedd darllen ac eisteddfodau lleol llewyrchus, a thraddodiad o dalyrna a chreu cerddi sy'n ddi-dor dros fil o flynyddoedd.
Mae llenyddiaeth o dan ein traed wrth inni gerdded y prom yn Aber. Mae’n addurno’r cei yn Aberteifi a’r llwybr drwy’r coed yn Llandre. Mae’n harddu muriau’n pentrefi. Mae’n rhan annatod o fywyd beunyddiol pobl o bob oed a chefndir.
I GYDNABOD HYN OLL, RYDYM YN CEISIO STATWS DINAS LLÊN UNESCO
Beth fyddai hynny’n ei olygu i Aberystwyth a Cheredigion?
Gwell ymdeimlad o berthyn, balchder bro a lles ymhlith y trigolion
Mwy o gyfleoedd dysgu
Mwy o gynlluniau blaengar i leddfu unigedd
Sbardun i dyfu’r diwydiannau creadigol ymhellach a dod â manteision i fusnesau lleol
Proffil uwch a all ddenu mwy o ymwelwyr a myfyrwyr
Mae’r cais hwn i ddod yn Ddinas Llên yn cynnig cyfle i sicrhau y bydd llenyddiaeth yn parhau i fod yn ynni nerthol sy’n creu cymuned gynaliadwy, fywiog, ddwyieithog a chynhwysol yma ar ochr orllewinol Cymru.
![Logo Cyngor Llyfrau Cymru](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/cc5e3120-b720-4529-a79c-4bd909d41b8c/Logo+CLLC.png)
![Logo Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau / Literature Across Frontiers](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/0e1cb624-5501-410e-acc6-0458babc4ca9/Logo+Llen+ar+draws+ffiniau.png)
![Logo Cyfnewidfa Llên Cymru / Wales Literature Exchange](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/7bae85d1-7b3c-4d2f-82fe-4b12ca86eedc/Logo+Cyfnewidfa+Llen.png)
![Logo Arfbais Cyngor Tref Aberystwyth](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/210b7147-e48b-46e0-a9f3-457c5a39822a/Logo+Cyngor+Tref+Aberystwyth.png)
![Logo Cyngor Tref Aberystwyth](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/ef5ae57e-3706-4bbc-babb-bc8c00939c27/Logo+Cyngor+Tref+Aberystwyth.png)
![Logo Prifysgol Aberystwyth University](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/686b8b8d-5db1-4ffd-8e40-4d3b1d62ddc2/Logo+Prifysgol+Aberystwyth+University.png)
![Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/40e5449a-b990-4cb7-9af9-477d68d8f19a/Logo+Prifysgol+Cymru+Y+Drindod+Dewi+Sant.png)
![Logo Geiriadur Prifysgol Cymru](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/dd293082-f640-4203-8ae5-8dc70f41062e/Logo+Geiriadur+Prifysgol+Cymru.png)
![Logo Cyngor Sir Ceredigion](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/0ee27600-4bf0-41bf-9338-a70d6584ddb6/Logo+Cyngor+Sir+Ceredigion.png)
![Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru.png](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6734a1d56d190d7edaa004f0/6b6ce524-1455-475b-99db-e78a9fcbf318/Logo+Llyfrgell+Genedlaethol+Cymru.png)