Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg / Read this article in English
Beth yw Dinas Llên UNESCO?
Yn ei hanfod, mae ennill dynodiad Dinas Llên UNESCO yn golygu dod yn rhan o Rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO. Lansiwyd y rhwydwaith hwn gan UNESCO yn 2004 er mwyn cefnogi dinasoedd i roi diwylliant a chreadigrwydd wrth wraidd eu cynlluniau datblygu.
Drwy greadigrwydd mewn meysydd o Gerddoriaeth i Gastronomeg, o Ffilm i Bensaernïaeth, mae’r dinasoedd hyn yn rhoi ar waith gynlluniau cadarn i ymateb i ofynion penodol eu hardaloedd nhw eu hunain ac ar yr un pryd yn cyfrannu at amcanion o bwys byd-eang, fel Nodau Datblygu Cynaladwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhwydwaith yn annog cydweithio rhwng dinasoedd fel eu bod yn rhannu profiadau a datrysiadau. Mae’n caniatáu iddynt ysbrydoli ei gilydd a chryfhau traweffaith eu polisïau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Dylid nodi nad gwobr ariannol yw dynodiad Dinas Llên. Nid yw’r statws yn dod â nawdd ariannol gydag ef o gyfeiriad UNESCO, er ei fod yn gallu bod yn gatalydd i ddenu nawdd. Un o’i brif fanteision yw hwyluso cyfnewid syniadau a chodi proffil creadigrwydd llenyddol yr ardal er budd holl drigolion yr ardal.
Aberystwyth Ceredigion yn dod yn Ddinas Llên gyntaf Cymru
Gan fod diffiniad UNESCO o ‘ddinas’ yn mynd y tu hwnt i’r diffiniadau traddodiadol, credwyd bod Aberystwyth Ceredigion, ar sail ei thraddodiad llenyddol cyfoethog, yn gymwys i fentro arni. Ac wedi 5 mlynedd o drafod a chynllunio, cyflwynwyd cais i UNESCO yn gynnar yn 2025.
Mae rhaid i geisiadau fel hyn gael eu cyflwyno yn enw maer etholedig dinas neu dref benodol. Dyma’r 5 o feiri Aberystwyth a fu wrth y llyw yn ystod y cyfnod paratoi. O’r chwith i’r dde: Alun Williams; Talat Chaudhri, Kerry Ferguson; Emlyn Jones; Maldwyn Pryse.
Ar y 31ain o Hydref 2025, derbyniodd Partneriaeth Dinas Llên y newyddion cadarnhaol bod Aberystwyth Ceredigion wedi ennill y dynodiad. Testun llawenydd mawr felly!
Pwy yw’r Bartneriaeth?
Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion , Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: CUCCh, LlaFf, CLC
Beth yw 6 phrosiect arweiniol y cais?
Mewn un adran bwysig yn y cais, roedd angen nodi 6 phennawd i roi cyfeiriad i weithgareddau’r Ddinas Llên newydd. Yn dilyn trafodaethau a chyfarfodydd cyhoeddus, cynigiwyd y penawdau canlynol:
-
Nod: Harneisio diwylliant, iaith a llenyddiaeth i'n helpu i ddeall, tystio a chynyddu gwydnwch cymunedol mewn cyfnod o argyfwng amgylcheddol.
-
Nod: Sicrhau bod llenyddiaeth yn cyfoethogi bywyd pawb drwy’r Ddinas gyfan.
-
Nod: Cyfrannu at atal y dirywiad a welir ar hyd y DG o ran cariad at lyfrau ac at ddarllen, a chynyddu lefelau llythrennedd er mwyn budd addysgol a lles yn gyffredinol yn y Ddinas.
-
Nod: Cysylltu ieithoedd sydd mewn perygl er mwyn meithrin gwydnwch ar gyfer amrywiaeth ieithyddol gynaladwy ledled y byd.
-
Nod: Defnyddio ein treftadaeth lenyddol unigryw i helpu i ddatblygu model twristiaeth gynaladwy sy’n adfywio cymunedau, iaith, diwylliant ac amgylchedd.
-
Nod: Cryfhau enw da a safle Cymru fel Cenedl Noddfa a Chenedl Heddwch.
Ble ry’n ni arni?
Yn union wedi’r newyddion am y dynodiad, cyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru am nawdd i gefnogi’r Bartneriaeth i drefnu agweddau gweinyddol y Ddinas Llên ac i arwain ar weithgareddau cychwynnol o dan y 6 phennawd.
Rydym bellach wedi cael cadarnhad swyddogol am lwyddiant y cais hwnnw a byddwn yn rhannu newyddion am y prosiectau hynny wrth iddynt gael eu datblygu.
Y cam nesaf i’r Bartneriaeth yw ceisio nawdd i osod seiliau tymor hir i’r prosiect, gan gynnwys cyflogi cydlynydd a chreu endid annibynnol yn enw ‘Dinas Llên’.
Diolch!
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu syniadau a rhoi anogaeth hyd yn hyn i’r gwaith o ennill dynodiad Dinas Llên i Aberystwyth Ceredigion.
Y nod yw ein galluogi i ddefnyddio’r dynodiad i dynnu sylw at yr holl weithgareddau llengar sydd eisoes ar waith yn yr ardal, ac o’r sylw hwnnw, dyfu’r gweithgareddau fel ein bod i gyd yn gallu ymfalchïo yn y modd y mae’r ardal yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel Dinas Llên.
Heb os, bydd y flwyddyn gyntaf hon yn un o arbrofi a gosod seiliau, a bydd gofyn am gyfuniad o amynedd a brwdfrydedd. Ein gobaith yw y byddwch chi’n ymuno gyda ni gydol y daith!
Cadw mewn cysylltiad
Da chi cadwch olwg ar y dudalen hon lle byddwn yn rhoi newyddion am ddatblygiadau wrth iddynt ddod i law.
Hefyd, os oes gennych chi weithgareddau perthnasol eisoes ar y gweill, byddem yn falch iawn o gael gwybod amdanynt. Yn yr un modd, os oes gennych chi syniadau yr hoffech chi eu trafod a’u rhoi ar waith, eto, mae croeso i chi gysylltu.
Manylion cyswllt: ymgyrch@dinasllen.cymru
DS: Cofiwch, serch hyn, nad oes gennym ni staff penodol ar hyn o bryd, felly efallai bydd peth oedi cyn ymateb.