Gan fynd i’r afael â thema Darllen y Dirwedd, bydd y digwyddiad Zoom ar-lein hwn yn dwyn ynghyd gasgliadau arbennig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Coleg Prifysgol Llundain (UCL); Llyfrgell Senate House, Prifysgol Llundain (SHL); a Sefydliad Ymchwil a Llyfrgell John Rylands, Prifysgol Manceinion. Gyda chyflwyniadau gan Timothy Cutts a Miidong P. Daloeng o’r Llyfrgell Genedlaethol; Liz Lawes, UCL; Tansy Barton a Leila Kassir, SHL, a Tabitha Tuckett, Prifysgol Manceinion, byddwn yn rhannu cyhoeddiadau gweisg bach ac effemera eraill sy’n ymwneud â Darllen y Dirwedd, sy’n un o brif themâu Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion, rhan o rwydwaith UNESCO o ddinasoedd creadigol. Dan ofal Ysgol Gelf y Slade.
Dyma ran gyntaf Symposiwm wyneb-yn-wyneb a gynhelir yn Ysgol Gelf Aberystwyth rhwng 2yp a 6yh – manylion isod.